Safoni, Cymedroli a'r Camau Nesaf yn y CS

Safoni, Cymedroli a'r Camau Nesaf yn y CS

By GwE

Date and time

Wed, 21 Feb 2018 13:00 - 16:00 GMT

Location

Tre-Ysgawen Hall

Llangefni LL77 7UR United Kingdom

Description

Gweithdy 1

21/02/2018 - 1:00yp-4:00yp - Tre-Ysgawen, Llangefni

Gweithdy 2

17/04/2018 - 1:00yp-4:00yp - Tre-Ysgawen, Llangefni


Cynhelir cyfres o weithdai i aelodau allweddol o staff addysgu y Cyfnod Sylfaen, gyda'u cyfoedion a dan arweiniad gofalu Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant y Cyfnod Sylfaen. Bydd dau sesiwn hanner diwrnod, y naill ar ddechrau tymor y Gwanwyn, a'r llall tuag at ddiwedd tymor y Gwanwyn.

Gan ddefnyddio tystiolaeth uniongyrchol o lyfrau disgyblion Deilliant 5, Deilliant 6 a Deilliant 4-5, 5-6 ffiniol, bydd gweithdai yn canolbwyntio ar:

  • Safoni gwaith y disgybl i sicrhau cysondeb rhanbarthol mewn asesu
  • Cymedroli gwaith y disgybl i sicrhau cysondeb rhanbarthol mewn asesu
  • Gwella'r ddarpariaeth i ddiwallu anghenion dysgwyr ar bob deilliant, er mwyn iddynt symud ymlaen i ddeilliant 5 a 6 (gan symud D4-5 a D5-6 ffiniol)
  • Defnyddio Fframwaith y Cyfnod Sylfaen i fod yn ddogfen gynllunio effeithiol
  • Rhoi sylwadau priodol ac effeithiol i ddysgwyr allu adnabod a thargedu'r camau nesaf yn eu dysgu
  • Gofalu bod arferion asesu manwl gywir yn cael eu gweithredu'n effeithiol i bob disgybl

Bydd angen i athrawon ddod a proffil plentyn ffiniol deilliant 4 a 5 a plentyn ffiniol deilliant 5 a 6 gyda nhw i’r gweithdai hy. tystiolaeth mewn llyfrau, ar dabledi ayyb.

Bydd ofynnol i athrawon fynychu diwrnod 1 a diwrnod 2

Organised by

GwE yw Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru. Rydym yn gweithio’n  gwbl ddwyieithog ochr yn ochr ag Awdurdodau Lleol Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn, ac ar eu rhan nhw, a hynny i ddatblygu ysgolion rhagorol ar hyd a lled y rhanbarth a gwella deilliannau disgyblion. Gwnawn hyn drwy sicrhau arweinyddiaeth effeithiol ar bob lefel, a dysgu ac addysgu o safon ym mhob dosbarth.  Ein gweledigaeth yw datblygu cyfundrefn addysg o fri ble bydd pob disgybl yn y rhanbarth yn cael addysg o safon sy’n gyson uchel ym mhob dosbarth, a ble bydd pob ysgol, lle bynnag y bo, yn cael ei harwain gan arweinwyr rhagorol.  Drwy herio’n bwrpasol ac yn gefnogol, nod sylfaenol GwE yw datblygu system hunan-wella sy’n dangos ffydd yn ein hysgolion a’u harweinwyr ar bob lefel i’n tywys ar hyd y daith honno. Ar ei orau, gall y cydweithio agos rhwng ysgolion fod yn hynod heriol, sy’n ein harwain i sylweddoli efallai nad ydy’r hyn yr oeddem ni yn ei ystyried yn arfer ragorol, yn rhagorol wedi’r cyfan. Gwaith ysgolion yw gwella eu hunain er lles y dysgwyr yn eu gofal; a thasg GwE yw sicrhau bod hynny’n digwydd.

GwE, the fully bilingual School Effectiveness and Improvement Service for North Wales, works alongside and on behalf of the Local Authorities of Conwy, Denbighshire, Flintshire, Gwynedd, Wrexham and Anglesey to develop excellent schools across the region and to improve outcomes for pupils by ensuring effective leadership at all levels and quality teaching and learning in all classrooms. Our vision is to develop a world class system of education where every pupil within the region will be able to access consistently high quality teaching in all classrooms and where all schools, wherever their geographical location, will be led by excellent leaders. By providing focused and supportive challenge, GwE’s fundamenal objective is to develop a self-improving system which trusts schools and their leaders at every level to guide us on that journey.  At best, close collaboration between schools can be extremely challenging and leads us to the realisation that perhaps what we perceived as being excellent practice is not in fact excellent.  Schools need to improve themselves for the sake of the learners in their care; it is up to GwE to ensure that this happens.

Sales Ended