Mae Anian 3 ar y gweill, ond be’ ydi Anian?
Mae Anian yn gymuned ar gyfer gweithwyr llawrydd a gweithwyr proffesiynol creadigol yng Ngwynedd. Mae’n gyfle i gyfarfod, rhannu syniadau, a throi eich llaw at sgiliau newydd mewn awyrgylch cefnogol. Mae gweithio yn y sector llawrydd a chreadigol yn gallu teimlo’n unig, dyna pam fod cymuned fel Anian mor bwysig.
Anian 3
Bydd y digwyddiad nesaf, Anian 3, yn cael ei gynnal ddydd Iau 23 Hydref 2025 am 6:30pm. Mae'r ‘carwsél creadigol’ wedi'i gynllunio i roi’r cyfle i bobl greu cysylltiadau newydd. Mae fel speed dating, ond bydd y rhai fydd yn mynychu yn cael blas ar brofiadau artistig newydd!
• Sesiwn DJio gyda'r DJ adnabyddus Endaf Roberts
• Gweithdy collage gyda'r artist lleol Manon Dafydd
• Peintio gyda'r artist Lisa Eurgain
Am £15 yn unig, mae tocyn yn cynnwys tri gweithgaredd creadigol, diod, a byrbrydau, yn awyrgylch glyd y Llofft. Rhaid archebu tocyn ymlaen llaw ac maen nhw ar gael rŵan.
Dyddiad: Dydd Iau 23 Hydref 2025
Amser: 6:30pm
Lleoliad: Llofft, Y Felinheli
Pris: £15 (yn cynnwys diod, byrbrydau, a thri gweithgaredd creadigol)
Yn agored i bawb 18+
anian is a community for freelancers and professionals working in Gwynedd, where Welsh is the language of everyday activity. It warmly welcomes anyone with a passion for improving their Welsh-speaking skills.